eglur

Gwefannau. Cyfieithu. Dylunio. Dwyieithog.

Amdanom

Wrth hyfforddi a gweithio fel cyfieithydd sylwais fod prinder gwefannau cwbl ddwyieithog, hyd yn oed gan unigolion a chwmnïau y byddech yn disgwyl bod eu deunydd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd.

Rwy’n credu mai’r rheswm yn aml yw bod rhai’n tybio bod creu a chadw gwefannau o’r fath yn fwy cymhleth ac yn ddwbl y pris, ac efallai bod hynny’n wir gan rhai darparwyr !

Mae’n bwysig i mi fod y Gymraeg yn cael ei gweld a’i defnyddio ym mhob agwedd ar fywydau pobl yng Nghymru, a dyna pam y dechreuais y cwmni bach eglur, er mwyn darparu gwasanaeth creu gwefannau cwbl ddwyieithog, hawdd eu defnyddio am bris teg.

Rwy’n gweithio ar ben fy hun o adref gan fwyaf, gan dynnu ar arbenigedd cyfeillion yn y meysydd dylunio ac argraffu lle bo hynny’n briodol i’r prosiect. Mae anghenion pawb yn wahanol, felly nid gwasgu eich gwybodaeth chi i mewn i dempled rwy’n ei defnyddio i bawb fydda i !

Cysylltwch â mi am sgwrs i weld a allaf eich helpu chi ar eich gwefan chi….

Gwefannau

Oes angen gwefan arnoch chi? Gwefan ddeniadol sy’n hawdd ei defnyddio, sy’n cadw’r defnyddiwr arni, ac yn ddwyieithog? Gall Eglur gynnig hynny…a mwy!

Mae ein gwefannau ni i gyd yn ddwyieithog. Dydyn ni ddim yn cynnig fersiwn Gymraeg am bris gostyngol ychwanegol, nac yn cynnig dêl arbennig lle mae’r fersiwn Gymraeg am ddim os ydych yn ateb rhyw ofynion penodol. Mae ein gwefannau ni’n ddwyieithog – ffwl stop!

Os bydd angen gwefan arnoch sy’n eich galluogi i ychwanegu deunydd ati’n rheolaidd, dim problem! Os hoffech chi i ni wneud y gwaith hwnnw trosoch, darllenwch y darn isod.

Cyfieithu

A fydd angen ychwanegu deunydd yn Gymraeg a Saesneg arnoch chi? Gallwn ni gyfieithu’r gwaith, ei osod ar y wefan a phrawf ddarllen y gwaith arlein i chi, i gyd o’r un swyddfa. Pan fo angen ychwanegu deunydd ar eich gwefan gallwch ei e-bostio atom ni, ac yn yr amser cyflymaf posibl fe fydd y gwaith yn fyw ar eich gwefan wedi’i gyfieithu.

Mae hyn yn cynnig arbedion ariannol ac amser, yn sicrhau ansawdd, ac yn golygu y gallwch drefnu’r holl waith mewn un galwad ffôn neu e-bost!

Dylunio

Yn aml, fe fydd unigolion, fusnesau neu gymdeithasau sydd â gwefan hefyd yn defnyddio posteri, pamffledi, llyfrynnau neu hysbysebion i dynnu sylw at eu gweithgareddau. Yma yn eglur gallwn ddarparu’r gwasanaethau hynny i chi, gan sicrhau fod cysondeb yn eich brand ar draws y gwahanol gyfryngau, a’i gyfannu a’ch gwefan hefyd.

Portffolio

Cysylltwch

Eglur
Y Stabal
Llanuwchllyn
Bala
Gwynedd
LL237DD

01678540711 - 07814623905
post@eglur.co.uk

Cysylltwch

Gallwn gyflawni prosiectau canolig neu fach, ffoniwch neu e-bostiwch i drafod eich anghenion. Ein nod ni yw eich helpu chi i gael y canlyniad gorau posibl, yn y modd mwyaf effeithlon. Mae hynny'n siwr o gadw gwen ar wyneb pawb!

post@eglur.co.uk